Mae atyniadau lleol yn yr ardal yn cynnwys cerdded a beicio (mae un o lwybrau beicio Sustrans ond tafliad carreg o'r bwthyn), pysgota, y llwybrau beicio mynydd poblogaidd yng Nghoed y Brenin, amryw o reilffyrdd bach, cestyll rhamantus a phentref Eidalaidd Portmeirion lle ffilmiwyd y gyfres adnabyddus The Prisoner.
Canolfan y Dechnoleg Amgen (13 milltir)
Canolfan Cerddoriaeth Werin Cymru Ty Siamas yn Nolgellau (3 milltir) - Sesiwn Fawr Dolgellau ym mis Gorffennaf
Pentref Eidalaidd Portmeirion (20 milltir)
Cestyll Tywysogion Cymru fel Castell y Bere a Chastell Dolwyddelan, a rhai a godwyd gan Edward I fel Harlech, Caernarfon a Chonwy
Labrinth y Brenin Arthur a Chanolfan Grefft (6 milltir)
Aber y Fawddach a Llwybr Mawddach (3 milltir)
Tref hanesyddol Dolgellau (Amgueddfa'r Crynwyr ayb) (3 milltir) - mynwent y Crynwyr ond 1 filltir i ffwrdd
Rheilffyrdd bach yn Ffestiniog (24 milltir), Talyllyn (10 milltir) ac o gwmpas Llyn Tegid yn y Bala (18 milltir)
Rafftio dwr gwyn yn y Bala (18 milltir)
Abaty Cymer (4 milltir)
Canolfan a llwybrau beicio mynydd Coed y Brenin (6 milltir)
Llwybr Clywedog - rhaeadr godidog (2 milltir)
Llwybr Llyn Cynwch (5 milltir)
Mae Parc Cenedlaethol Eryri newydd ennill statws Awyr Dywyll ac mae Penybryn mewn cwm lle gallwch wneud y mwyaf o wylio'r sêr