Bwthyn Gwyliau Penybryn
Dyma rai o’r cyfleusterau sydd ar gael:
- Wi-fi diderfyn am ddim
- Golygfeydd godidog dros y cwm ac i’r mynyddoedd
- Gardd hyfryd wedi’i walio a’i ffensio’n ddiogel a lawnt yn amgylchynu’r bwthyn, dwy fainc, dodrefn gardd o wiail, a barbyciw
- Ystafell fyw ag eisteddle tân, stôf goed a glo, soffas lledr, teledu digidol a chwaraewr DVD
- Heulfan gyda bwrdd trestl hir, dwy soffa ledr a golygfeydd dros yr ardd ac i’r mynyddoedd
- Cegin / bwrdd bwyta gyda sinc belffast, peiriant golchi llestri, popty micro ac oer/rhewgell undarn mawr
- Ystafell gawod i lawr y grisiau, toiled a sinc gyda pheiriant golchi dillad a chwpwrdd cnesu dillad
- Ystafell ymolchi i fyny’r grisiau gyda bath haearn-bwrw hen ffasiwn, toiled a sinc, a golygfeydd dros y cwm
- Llofft Rhif 1 gyda gwely dwbl a golygfeydd dros y cwm
- Llofft Rhif 2 gyda dau wely sengl a golygfeydd dros y cwm, yn arwain trwodd i Lofft Rhif 3
- Llofft Rhif 3 gyda gwely 5 troedfedd a golygfeydd dros y cwm
- Cot, gatiau i’r grisiau a chadair uchel ar gael (cofiwch ofyn – dewch â dillad cot eich hun os gwelwch yn dda)
- Sychwr gwallt, haearn a bwrdd smwddio
- Dillad gwely a llieiniau bath a llaw wedi eu cynnwys (cofiwch ddod â’ch llieiniau traeth eich hun)
- Gwres canolog a thrydan wedi eu cynnwys
- Digonedd o le parcio
- Addurniadau a choeden Nadolig go iawn ar gyfer wythnosau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
- Llond basged o goed am ddim – mwy o goed a glo ar gael yn lleol
- Gwyliau byr ar gael – 2, 3 neu 4 noson
- Yr agoriad / allwedd ar gael gan y perchnogion gerllaw
- Diwrnod cyrraedd a gadael – dydd Sadwrn, cyrraedd o 4pm ymlaen
- Lle diogel i storio beics

Cyfyngiadau
- Dim anifeiliaid anwes
- Dim ysmygu
- Grisiau gyda thro ynddynt, braidd yn gul i’r droed (200mm), Datganiad Mynediad ar gael
Lluniau o’n Oriel
Cliciwch ar y delweddau isod i weld llun mwy